PRIFYSGOL BANGORCOLEG GWYDDONIAETH A PHEIRIANNEGSwyddog Clercyddol Marchnata a Recriwtio(Cyf: BU03529)Cyflog: £23,144 - £25,138 y.....
PRIFYSGOL BANGOR
COLEG GWYDDONIAETH A PHEIRIANNEG
Swyddog Clercyddol Marchnata a Recriwtio
(Cyf: BU03529)
Cyflog: £23,144 - £25,138 y flwyddyn (Graddfa 4)
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd Swyddog Clercyddol Marchnata a Recriwtio parhaol llawn amser yn gweithio yn y Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Bydd y sawl a benodir wedi'i leoli'n bennaf yn un o'r tair ysgol academaidd, ond bydd yn cael cyfle i weithio fel rhan o dîm marchnata a recriwtio ehangach y coleg i gefnogi gweithgareddau recriwtio ar draws yr ysgolion.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys gweinyddu'r prosesau recriwtio a derbyn myfyrwyr ar gyfer portffolio o raglenni, gan ymdrin ag ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr ac ymgeiswyr; cymryd rhan mewn ymgyrchoedd recriwtio; cynorthwyo gyda diwrnodau agored a digwyddiadau recriwtio a mynd iddynt. Mae angen gweithio ar benwythnosau o bryd i'w gilydd i gefnogi Diwrnodau Agored a digwyddiadau recriwtio. Mewn blwyddyn arferol gallai hyn olygu 7 – 10 penwythnos y flwyddyn.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg i safon TGAU, NVQ Lefel 2 mewn maes pwnc perthnasol (neu gymhwyster/profiad cyfwerth); bod â phrofiad o weithio mewn awyrgylch gweinyddol a gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office (Word, Excel ac ati).
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â Stevie Scanlan, e-bost stevie.scanlan@bangor.ac.uk
Dyddiad Cau: 21 Mai 2024
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
-------------------------------
BANGOR UNIVERSITY
COLLEGE OF SCIENCE & ENGINEERING
Marketing and Recruitment Clerical Officer
(Ref: BU03529)
Salary: £23,144 - £25,138 p.a. (Grade 4)
Applications are invited for a permanent full time Marketing and Recruitment Clerical Officer role working in the College of Science and Engineering. The appointee will be primarily based in one of the three academic Schools but will have the opportunity to work as part of the wider College Marketing and Recruitment Team in support of cross school recruitment activities.
Duties will include administration of the student recruitment and admissions processes for a portfolio of programmes, dealing with enquiries from prospective students and applicants; involvement in recruitment campaigns; assisting with and attending Open Day and recruitment events. Weekend work is occasionally required to support Open Days and recruitment events in a typical year this could mean 7 – 10 weekends per year.
Candidates should be educated to GCSE level, NVQ level 2 in an appropriate subject (or equivalent qualification/experience); have previous experience of working within an administrative environment and be proficient in the use of Microsoft Office applications (Word, Excel etc.).
The ability to communicate in Welsh is essential for this post.
The successful candidate will be expected to commence on as soon as possible.
This role will be located on campus at Bangor. Through our Dynamic Working framework, there will also be the option to spend some time working remotely (although remaining in the UK) to support work life balance, which will be discussed further with candidates at interview.
Applications will also be considered to carry out this role on a part-time or job share basis.
Applications will only be accepted via our on-line recruitment website, jobs.bangor.ac.uk. However, in cases of access issues due to disability, paper application forms are available by telephoning 01248 383865.
Informal enquiries should be directed to Stevie Scanlan, email stevie.scanlan@bangor.ac.uk
Closing date: 21 May 2024
Committed To Equal Opportunities