The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Dosbarth Lefel 1 mor fuan a phosib i’n cynorthwyo ni i gefnogi a chyflwyno dysgu ar gytundeb llawn amser am flwyddyn yn Ysgol Gymunedol Plascrug. Mi fyddwch yn gweithio fel rhan o dim staffio craidd yr ysgol.
Dyma nod yr ysgol:
‘Yma ym Mhlascrug mi fyddwn yn sicrhau y bydd pob plentyn yn ffynnu yn ein hysgol, sydd yn rhoi plant yn ganolog i’n cymuned. Credwn fod gan bob plentyn y gallu i wneud cynnydd rhagorol wrth ddatblygu sgiliau gydol oes mewn amgylchedd dwy ieithog sy’n ddiogel, ofalgar ac ysbrydoledig. Mi fyddwn yn rhoi y siawns gorau i lwyddo i bob plentyn gan ddathlu pob llwyddiant gyda’n gilydd.’
O hoffech fod yn ran o dim ymroddgar i’n helpu i wireddi’r nod yma ac yn meddu a’r sgiliau isod fydd yn eich galluogi i ymgymryd a’r swydd yn llwyddiannus yna fe hoffem i chi wneud cais am y swydd.
Fe fydd gofyn i chi:
- oruchwylio a darparu cefnogaeth neulltiol i ddisgyblion ag anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at weithgareddau dysgu
- sefydlu perthynas adeiladol gyda’r disgyblion, gan ryngweithio yn unol a’u hanghenion unigol
- herio a symbylu disgyblion, hyrwyddo ac atgyfnerthu hunan-werth
- annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu’r athrawes
- cynorthwyo gyda’r gwaith o gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol
Rydym am benodi unigolyn sydd a:
- sgiliau rhifedd/llythrennedd da yn y Gymraeg a’r Saesneg
- sgiliau cyfathrebu gwych ac yn meddu ar y gallu i adeiladu perthnasau dros ystod oedran a gallu
- dealltwriaeth gyffredinol o’r cwricwlwm cenedlaethol/ cyfnod Sylfaen a rhaglenni/strategaethau dysgu sylfaenol eraill
- gweithio’n adeiladol a hyblyg yn rhan o dim, deal cyfrifoldebau a swyddogaethau’r ystafell ddosbarth a’ch safle bersonol o fewn y swyddogaethau hynny
- CGC1 i Gynorthwyyr Dosbarth, cymwysterau neu phrofiad gyffelyb
Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio’u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb yn cefnogi pob disgybl o fewn y dosbarth.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cael ei benodi i’r swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Carol Macy ar MacyC@plascrug.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to
Disability Confident.